Dosbarth Ysgol Gynradd Kingsland

Hafan > Plant > Y Cyngor Iechyd a Lles

Y Cyngor Iechyd a Lles

Ni yw cynrychiolwyr Cyngor Iechyd a Lles Ysgol Kingsland ar gyfer 2025–2026; fe’n hetholwyd gan ein dosbarthiadau, gyda Mr. Pawson a Mrs. Owen yn ein cefnogi, ac ein nod yw sicrhau bod plant yr ysgol yn cael cyfle i ddatblygu i fod yn unigolion iach, hyderus, sy’n barod i fyw bywyd cyflawn fel aelodau gwerthfawr o gymdeithas. Rydym yn cyfarfod yn rheolaidd i drafod materion sy’n ymwneud a iechyd a lles plant , ac rydym yn cael cyfle i drafod unrhyw syniadau neu bryderon gyda Mr. Hearn a staff yr ysgol. 

Ein targedau ar gyfer 2025-2026 ydy:

  • Creu system Bydis Lles
  • Prynu a lleoloi Meinciau Bydi ar yr iard
  • Creu Wal Teimladau tu allan i bob dosbarth ar gyfer check-in boreol er mwyn gwneud yn siwr bod pawb yn teimlo’n iawn bob dydd
  • Prynu worry monsters ar gyfer bob dosbarth 3-8
  • Cefnogi ein banc bwyd lleol
  • Cynnal sesiynau blasu ffrwythau a llysiau ym mhob dosbarth
  • Cychwyn sytstem Blodau Balchder Bach, sef gosod ysgrifennu neges neis i blant am weithred arbennig
Aelodau Cyngor Iechyd a Lles 2025-26 Ysgol Kingsland