Dosbarth Ysgol Gynradd Kingsland

Hafan > Plant > Dosbarthiadau > Blwyddyn 5 a 6

Blwyddyn 5 a 6

Fy enw ydy Gareth Pawson. 

Rydw i'n athro dosbarth blwyddyn 5 a 6 yn Ysgol Kingsland. Rydw i’n addysgu yn Ysgol Kingsland ers 2009. Cyn i mi ddechrau addysgu yn Kingsland, roeddwn yn y brifysgol yn astudio Cyfrifeg a Cyllid ac hyfforddi rygbi i adran datblygu chwaraeon Ynys Môn. Nes i hefyd weithio am gyfnod byr yn Warws Stena Line. Mi es i ysgolion cynradd Clyro, Bucknell a Talwrn, Ysgol Uwchradd Llangefni ac yna Prifysgol Bangor. Yn yr ysgol, fy hoff bwnc i’w addysgu ydy Mathemateg ac Ymarfer Corff.

  • Mae gen i nifer o ddiddordebau sy’n cynnwys chwarae rygbi, mynd i’r gampfa, trafeilio a bwyd! 
  • Fy hoff fwyd ydy Steak a chips. 
  • Fy hoff liw ydy glas. 
  • Fy hoff raglen deledu ydy Rownd a Rownd. 
  • Ffaith ddiddorol amdana i ydy fy mod yn chwarter Eidalwr gan roedd fy Nana yn Eidales, ac dysgais Gymraeg pan yn 10 oed ar ôl symud yn ôl i Ynys Môn.

Beth rydw i’n hoffi am Ysgol Kingsland ydy mae awyrgylch arbennig yn yr ysgol. Mae holl staff yr Ysgol fel teulu ac mae’r dylanwad yma yn creu plant ac ysgol hapus! Rydw i’n hoffi dysgu oherwydd mae’n rhoi pleser mawr cael chwarae rhan bach yn natblygiad plant ac yna ei gweld nhw’n llwyddo rwan ac yn y dyfodol.

Os hoffech gysylltu â fi, defnyddiwch fy e-bost Hwb: pawsonw@hwbcymru.net

Gellir cysylltu rhwng 9:00am a 3:15pm, dydd Llun – dydd Gwener yn unig.