Hafan > Plant > Y Cyngor Ysgol
Y Cyngor Ysgol
Ni yw cynrychiolwyr Cyngor Ysgol Kingsland ar gyfer 2025–2026; fe’n hetholwyd gan ein dosbarthiadau, gyda Mrs Rowlands yn ein cefnogi, ac ein nod yw sicrhau bod llais pob plentyn yn yr ysgol yn cael ei glywed tra’n gweithio i sicrhau amgylchedd ysgol hapus a chynhaliol. Rydym yn cyfarfod yn rheolaidd i drafod materion sydd yn bwysig i ni fel plant Ysgol Kingsland, ac rydym yn cael cyfle i drafod unrhyw syniadau neu bryderon gyda Mr. Hearn a staff yr ysgol.
Ein targedau ar gyfer 2025-2026 ydy:
- Cynnwys llais y plentyn er mwyn datblygu’r ardaloedd tu allan ymhellach
- Parhau i drefnu digwyddiadau er mwyn codi arian tuag at yr ysgol ac elusennau
- Bod yn lais plant Ysgol Kingsland yn system arfarnu’r ysgol trwy arsylwi plant ar waith yn y dosbarthiadau - ni ydy Ditectifs Dysgu Ysgol Kingsland!