Hafan > Plant > Y Criw Cymraeg
Y Criw Cymraeg
Ni yw cynrychiolwyr Criw Cymraeg Ysgol Kingsland ar gyfer 2025–2026; fe’n hetholwyd gan ein dosbarthiadau, gyda Mr. Hearn a Mrs. Scott yn ein cefnogi, ac ein nod yw sicrhau bod pob plentyn yn yr ysgol yn cael y cyfle gorau posibl i fod yn ddwyieithog erbyn gorffen eu haddysg yn Ysgol Kingsland a chael cyfle i ddysgu am hanes a diwylliant Cymru. Rydym yn cyfarfod yn rheolaidd i drafod materion am y Gymraeg a Chymreictod, ac rydym yn cael cyfle i drafod unrhyw syniadau neu bryderon gyda Mr. Hearn a staff yr ysgol.
Ein targedau ar gyfer 2025-2026 ydy:
- Cynnal sesiwn Gemau Buarth un amser cinio yr wythnos gyda pob dosbarth yn ei dro
- Trefnu recordiad bob pythrfnos yn cynnwys eitemau a cherddoriaeth Gymraeg (recordiad nid darllediad byw)
- Sicrhau bod yna ddigon o gyfleoedd ar gyfer gwaith grŵp/trafod yn y Gymraeg.
- Cynnal disgo Santes Dwynwen ar y 25ain o Ionawr neu’n agos at hynny
- Trefnu gweithgareddau ar gyfer Wythnos Gymreig yr ysgol, gan gynnwys yr Eisteddfod Ysgol, yn agos at Fawrth y 1af
- Trefnu i gael sgwrs gyda Mari Lovegreen am ei defnydd o Wenglish yn ei nofelau i blant a sut mae iaith yn esblygu