Dosbarth Ysgol Gynradd Kingsland

Hafan > Plant > Y Cyngor Eco

Y Cyngor Eco

Ni yw cynrychiolwyr Cyngor Eco Ysgol Kingsland ar gyfer 2025–2026; fe’n hetholwyd gan ein dosbarthiadau, gyda Miss. Jones a Mrs. Stephenson-Brown yn ein cefnogi, ac ein nod yw sicrhau bod plant yr ysgol yn cael cyfle i ddysgu am faterion sy’n ymwneud ȃ’r amgylchedd, sicrhau bod amgylchedd yr ysgol ac ardal Kingsland yn lȃn a thaclus. Rydym yn cyfarfod yn rheolaidd i drafod materion am yr amgylchedd, ac rydym yn cael cyfle i drafod unrhyw syniadau neu bryderon gyda Mr. Hearn a staff yr ysgol. 

Ein targedau ar gyfer 2025-2026 ydy:

  • Datblygu gardd yr ysgol
  • Parhau i fonitro ailgylchgu yn yr ysgol
  • Trefnu sesiwn codi sbwriel ar draeth Penrhos gyda Beach Wales
  • Trefnu bod ardal Kingsland yn cael ei adnabod fel ardal ‘dim sbwriel’ gyda Cadw Cymru’n Daclus
  • Creu posteri i’w harddangos yn ardal Kingsland i hysbysu’r cyhoedd o’r peryglon o faw ci ar ein palmentydd
Aelodau Cyngor Eco 2025-26 Ysgol Kingsland