Hafan > Gwybodaeth > Mynediad
Mynediad
Os ydych yn dymuno gwneud cais i'ch plentyn ymuno ȃ ni yma yn Ysgol Gynradd Kingsland dylid cyflwyno cais trwy wefan y Cyngor. Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau i'r dosbarth Meithrin a Derbyn ar gyfer 2026-27 ydy 01/02/26. Mae mwy o fanylion am ysgolion y Sir gan gynnwys ein hysgol arbennig ni i'w cael yn y Llawlyfr Gwybodaeth i Rieni.
Mynediad i ddosbarth Meithrin ar gyfer Medi 2026
Mynediad i ddosbarth Derbyn ar gyfer Medi 2026
Gall dechrau’r ysgol fod yn gam mawr i rieni ac i blant.
Mae pob ysgol yn ardal dalgylch Caergybi yn cydweithio’n agos, ac mae’r un disgwyliadau ar gyfer pob disgybl wrth ddechrau’r ysgol gynradd.
Rhwng nawr a mis Medi, pan fydd eich plentyn yn dechrau’r ysgol, fe’ch cynghorir i ddarllen drwy’r disgwyliadau isod yn ofalus a chefnogi eich plentyn i ymarfer y sgiliau hyn.
Bydd hyn yn helpu i sicrhau bod trosglwyddiad eich plentyn i’r ysgol mor esmwyth, cadarnhaol a di-drafferth â phosibl
Disgwyliadau i rieni Meithrin a Derbyn
Gellir gwneud cais i drosglwyddo o ysgol arall i Ysgol Kingsland yng nghanol y flwyddyn trwy gwblhau'r ffurflen ar-lein ar wefan y Cyngor ar y linc canlynol:
Trosglwyddo rhwng ysgolion neu ddychwelyd i addysg brif lif
Gellir cael gwybodaeth ar gyfer trosglwyddo o Ysgol Kingsland i addysg uwchradd ar y linc canlynol. Mae ceisiadau'n cau ar 18/12/25.
Mynediad i ysgolion uwchradd (blwyddyn 7) ar gyfer Medi 2026