Hafan > Plant > Dosbarthiadau > Blwyddyn 4 a 5
Blwyddyn 4 a 5
Fy enw ydy Mr Ynyr Jones.
Rydw i'n athro dosbarth ar flwyddyn 4 a 5 yn Ysgol Kingsland. Rydw i’n addysgu yn Ysgol Kingsland ers Medi 2025. Ysgol Kingsland yw’r ysgol gyntaf i mi addysgu ers cymhwyso fel athro yn Haf 2025. Mi es i Ysgol Gyfun Llangefni ac yna Prifysgol yn Lerpwl. Yn yr ysgol, fy hoff bwnc i’w addysgu ydy Mathemateg.
- Mae gen i nifer o ddiddordebau sy’n cynnwys rhedeg, cerdded mynyddoedd, teithio a gwylio gwahanol chwaraeon ar y teledu.
- Fy hoff fwyd ydy cinio Dydd Sul.
- Fy hoff liw ydy gwyrdd.
- Fy hoff raglen deledu ydy unrhyw raglen yn ymwneud â golff.
- Ffaith ddiddorol amdana i ydy fy mod i wrth fy modd hefo unrhyw beth yn yr awyr agored.
- Beth rydw i’n hoffi am Ysgol Kingsland ydy’r teimlad cartrefol sydd yn yr ysgol.
- Rydw i’n hoffi dysgu oherwydd mae’n swydd werthfawr ac yn bwrpasol iawn drwy wneud gwahaniaeth ym mywydau myfyrwyr, ysbrydoli cenedlaethau'r dyfodol, a rhannu angerdd dros bwnc penodol.
Os hoffech gysylltu â fi, defnyddiwch fy e-bost Hwb: Jonesy70@hwbcymru.net.
Gellir cysylltu rhwng 9:00am a 3:15pm, dydd Llun – dydd Gwener yn unig.