Hafan > Newyddion > Neges Croeso gan y Pennaeth
Neges Croeso gan y Pennaeth
Croeso cynnes i wefan Ysgol Gynradd Kingsland. Rydym yn gobeithio y gwnewch fwynhau bori trwy’r gwahanol dudalennau ac y byddwch yn cael darlun clir o fywyd dyddiol hapus yr ysgol.
Lleolir Ysgol Gynradd Kingsland yn ardal Kingsland, ardal yn nhref porthladd Caergybi sy’n cysylltu’n uniongyrchol ag Iwerddon. Yn ôl cyfrifiad 2021 mae gan y dref boblogaeth o tua 11,700. Yn wreiddiol, gelwid ardal Kingsland yn Ben-llech neu Pen-llechnest, ond cafodd ei hailenwi yn 1821 i "Kingsland" i nodi ymweliad y Brenin Sior IV ar ei daith i Iwerddon.
Rydym yn ysgol hapus, groesawgar a chanddi ymdeimlad cryf o gymuned. Ar hyn o bryd (Rhagfyr 2025) mae gennym 162 o ddisgyblion ar y gofrestr, gan gynnwys 18 yn y dosbarth Meithrin. Mae’r ysgol yn dilyn polisi iaith y Sir ac iaith naturiol yr ysgol yw Cymraeg. I ddisgyblion newydd sydd heb dderbyn addysg Gymraeg cyn ymuno â ni, ceir mynediad at wasanaeth y Ganolfan Hwyrddyfodiaid, naill ai yn Ysgol Cybi neu Ysgol Gymuned Moelfre.
Rydym yn gweithredu Cwricwlwm i Gymru, gyda llais y plentyn yn greiddiol i’n cynllunio ac i’n gwaith bob dydd. Agorwyd yr adeilad presennol yng nghanol y 1970au, ac fel pob ysgol dros y blynyddoedd, mae wedi cael ei addasu i sicrhau ei fod yn diwallu anghenion addysg yr 21ain ganrif. Mae’r ysgol yn gartrefol ac yn gynnes, gyda phwyslais arbennig ar sicrhau bod ein disgyblion yn hapus ac yn ddiogel. Ein cred yw bod dysgu’n ffynnu pan fo lles a hapusrwydd wrth ei wraidd.
Mae nifer o’n staff wedi cymhwyso fel Ymarferwyr Ymwybyddiaeth Mewn Trawma, gyda thîm profiadol a brwdfrydig yn addysgu ein disgyblion mewn chwe dosbarth: Meithrin, Derbyn/Blwyddyn 1, Blwyddyn 1/2, Blwyddyn 3/4, Blwyddyn 4/5, a Blwyddyn 5/6. Mae gwaith maes, prosiectau lleol ac ymweliadau addysgol yn rhan annatod o brofiadau pob dosbarth. Mae gennym ddosbarth a elwir yn ‘Nyth’, sy’n darparu cwricwlwm amgen ar gyfer disgyblion nad ydynt yn gallu ymdopi gydag addysg mewn dosbarthiadau cyffredin ar y pryd. Gall hyn ddigwydd am gyfnodau yn ystod y dydd, gyda chyfle i’r plant ymuno a’u dosbarthiadau arferol yn ôl eu hanghenion. Mae staff y Nyth yn hynod brofiadol ac yn meddu ar gymwysterau addas yn y maes, gan sicrhau cefnogaeth bersonol a chanolog i bob plentyn.
Yn dilyn adborth gan rieni, rydym yn credu’n gryf fod plant angen amser i orffwys ac ymddiddori mewn gweithgareddau tu allan i’r ystafell ddosbarth. O’r herwydd, nid ydym yn rhoi pwyslais mawr ar waith cartref. Yn hytrach, rydym yn annog rhieni a gwarcheidwaid i ddarllen gyda’u plant, eu cynorthwyo gyda sillafu a thablau, ond yn bwysicaf oll, i roi profiadau ystyrlon iddynt – megis mynd am dro i’r traeth neu i’r goedwig. Mae treulio amser o ansawdd yn siarad gyda phlant ac yn dangos diddordeb yn eu bywyd ysgol yn hynod bwysig i ni.
Mae gennym amrywiaeth o glybiau ar ôl ysgol, gan gynnwys clwb darllen, pickleball, rhedeg a dodgeball – oll yn rhad ac am ddim. Ceir hefyd glwb gofal (o 8:00am, £1.65 y sesiwn) a chlwb brecwast (o 8:25am, am ddim i bawb) bob dydd.
Darperir cinio maethlon yn ddyddiol, sydd erbyn hyn yn rhad ac am ddim i bob plentyn llawn amser. Cynigir dewis o bryd poeth neu oer, gyda phrydau cig neu lysieuol, i gyd wedi’u paratoi gan ein cogyddes wych a’i thîm ymroddedig yn y gegin.
Dyna fraslun o’n hysgol fywiog a chyfeillgar yma yn Kingsland. Croesawir unrhyw ymholiad trwy gysylltu â mi ar y cyfeiriad e-bost ar y wefan, neu drwy gysylltu â’n swyddog gweinyddol.
Diolch yn fawr.
Yn gywir,
Rhys Hearn
Pennaeth